Genesis 47:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dyddiau Israel a nesasant i farw: ac efe a alwodd am ei fab Joseff, ac a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd; na chladd fi, atolwg, yn yr Aifft:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cyn i Jacob farw, galwodd am ei fab Joseff, a dwedodd wrtho, “Mae gen i ffafr i'w gofyn gen ti. Dw i am i ti fynd ar dy lw ac addo y byddi di'n gwneud be dw i'n ofyn. Plîs paid claddu fi yn yr Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan nesaodd diwrnod marw Israel, galwodd ei fab Joseff, ac meddai wrtho, "Os cefais unrhyw ffafr yn dy olwg, rho dy law dan fy nghlun a thynga y byddi'n deyrngar a ffyddlon imi. Paid 'm claddu yn yr Aifft,