Genesis 47:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Twng wrthyf. Ac efe a dyngodd wrtho. Yna Israel a ymgrymodd ar ben y gwely.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i eisiau i ti fynd ar dy lw y gwnei di,” meddai Jacob. A dyma Joseff yn addo iddo. A dyma Jacob yn plygu drosodd ar ben ei wely.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ychwanegodd Jacob, "Dos ar dy lw wrthyf." Aeth yntau ar ei lw. Yna ymgrymodd Israel a'i bwys ar ei ffon.