Genesis 47:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jacob a ddywedodd wrth Pharo, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chan mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyraeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi crwydro'r hen fyd yma ers 130 o flynyddoedd,” meddai Jacob. “Bywyd byr, a digon o drafferthion. Dw i ddim wedi cael byw mor hir â'm hynafiaid.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Jacob, "Yr wyf wedi cael ymdeithio ar y ddaear am gant tri deg o flynyddoedd. Byr a chaled fu fy ngyrfa, ac ni chyrhaeddais eto oed fy nhadau pan oeddent hwy yn fyw."