Genesis 48:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a'i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oedd yr ieuangaf,) a'i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Jacob yn croesi ei freichiau a rhoi ei law dde ar ben Effraim (yr ifancaf o'r ddau) a'i law chwith ar ben Manasse (y mab hynaf).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Estynnodd Israel ei law dde a'i gosod ar ben Effraim, yr ieuengaf, a'i law chwith ar ben Manasse, trwy groesi ei ddwylo, er mai Manasse oedd yr hynaf.