Genesis 48:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fendithiodd Joseff, ac a ddywedodd, DUW, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, DUW, yr hwn a'm porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n bendithio Joseff trwy ddweud, “O Dduw — y Duw roedd fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn ei wasanaethu; y Duw sydd wedi bod fel bugail i mi ar hyd fy mywyd;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna bendithiodd Joseff a dweud: "Y Duw y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac o'i flaen, y Duw a fu'n fugail imi trwy fy mywyd hyd heddiw,