Genesis 48:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Wele fi yn marw; a bydd DUW gyda chwi, ac efe a'ch dychwel chwi i dir eich tadau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Jacob yn dweud wrth Joseff, “Fel y gweli, dw i ar fin marw. Ond bydd Duw gyda ti, ac yn mynd â ti yn ôl i wlad dy hynafiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Israel wrth Joseff, "Yr wyf yn marw, ond bydd Duw gyda chwi, ac fe'ch dychwel i dir eich hynafiaid.