Genesis 48:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awr hon, dy ddau fab, y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aifft, cyn fy nyfod atat i'r Aifft, eiddof fi fyddant hwy: Effraim a Manasse fyddant eiddof fi, fel Reuben a Simeon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Joseff, bydd dy ddau fab, gafodd eu geni i ti yn yr Aifft cyn i mi ddod yma, yn feibion i mi. Bydd Effraim a Manasse yn cael eu cyfri yn feibion i mi, yn union yr un fath â Reuben a Simeon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn awr, fi piau dy ddau fab, a anwyd i ti yng ngwlad yr Aifft cyn i mi ddod atat i'r Aifft. Fi piau Effraim a Manasse; byddant fel Reuben a Simeon i mi.