Genesis 48:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath: a chleddais hi yno ar ffordd Effrath: honno yw Bethlehem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Buodd Rachel farw yng ngwlad Canaan pan oeddwn i ar fy ffordd yn ôl o Padan, ac roeddwn i'n drist iawn. Digwyddodd pan oedden ni'n dal yn reit bell o Effrath. Felly dyma fi'n ei chladdu hi yno, ar y ffordd i Effrath” (hynny ydy, Bethlehem).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fel yr oeddwn yn dod o Padan, bu Rachel farw ar y daith yng ngwlad Canaan pan oedd eto dipyn o ffordd i Effrath, a chleddais hi yno ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem."