Genesis 49:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy DDUW dy dad, yr hwn a'th gynorthwya, a'r Hollalluog, yr hwn a'th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a'r groth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Duw dy dad, yr un fydd yn dy helpu di; y Duw sy'n rheoli popeth. Bydd e'n dy fendithio di gyda'r bendithion o'r awyr uchod, a'r bendithion sy'n gorwedd dan y ddaear isod, gyda bendithion y fron a'r groth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
trwy Dduw dy dad, sydd yn dy nerthu, trwy Dduw Hollalluog, sydd yn dy fendithio bendithion y nefoedd uchod, bendithion y dyfnder sy'n gorwedd isod, bendithion y bronnau a'r groth.