Genesis 49:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r bendithion gafodd dy dad yn well na bendithion y mynyddoedd tragwyddol a'r pethau da mae'r bryniau hynafol yn eu rhoi. Byddan nhw'n disgyn ar ben Joseff — ar dalcen yr un sy'n flaenaf ar ei frodyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion y mynyddoedd tragwyddol, ac ar haelioni'r bryniau oesol; byddant hwy ar ben Joseff, ac ar dalcen yr un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.