Genesis 49:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll; a dyma'r hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r deuddeg llwyth yn Israel. A dyma beth ddwedodd eu tad wrthyn nhw pan fendithiodd nhw. Rhoddodd fendith addas i bob un ohonyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna ddeuddeg llwyth Israel, a dyna'r hyn a ddywedodd eu tad wrthynt wrth eu bendithio, a rhoi i bob un ei fendith.