Genesis 49:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a'u llid, canys creulon fu: rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Melltith arnyn nhw am wylltio mor ofnadwy; am ddigio a bod mor greulon. Dw i'n mynd i wasgaru eu disgynyddion nhw ar hyd a lled Israel!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Melltigedig fyddo eu llid am ei fod mor arw, a'u dicter am ei fod mor greulon; rhannaf hwy yn Jacob a'u gwasgaru yn Israel.