Genesis 50:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr dyrnu Atad; yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Eifftiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel‐Misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd pobl Canaan nhw yn galaru ar lawr dyrnu Atad, dyma nhw'n dweud, “Mae'r angladd yma'n ddigwyddiad trist iawn yng ngolwg yr Eifftiaid.” Felly cafodd y lle, sydd yr ochr draw i Afon Iorddonen, ei alw yn Abel-misraim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y Canaaneaid, preswylwyr y wlad, y galar ar lawr dyrnu Atad, dywedasant, "Dyma alar mawr gan yr Eifftiaid." Felly enwyd y lle y tu draw i'r Iorddonen yn Abel-misraim.