Genesis 50:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ei feibion a'i dygasant ef i wlad Canaan, ac a'i claddasant ef yn ogof maes Machpela: yr hon a brynasai Abraham gyda'r maes, yn feddiant beddrod, gan Effron yr Hethiad, o flaen Mamre.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aethon nhw â'i gorff i wlad Canaan, a'i gladdu yn yr ogof yn Machpela ger Mamre, ar y tir oedd Abraham wedi ei brynu gan Effron yr Hethiad i fod yn fan claddu i'w deulu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd daeth ei feibion ag ef i wlad Canaan a'i gladdu ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yn yr ogof a brynodd Abraham gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd.