Genesis 50:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywedwch wrth Joseff; Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a'u pechod hwynt; canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision DUW dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Dwedwch wrth Joseff: Plîs maddau i dy frodyr am y drwg wnaethon nhw, yn dy drin di mor wael.’ Felly dyma ni, gweision y Duw roedd dy dad yn ei addoli. O, plîs wnei di faddau i ni am beth wnaethon ni?” Pan glywodd Joseff hyn dyma fe'n dechrau crïo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Dywedwch wrth Joseff, "Maddau yn awr ddrygioni a phechod dy frodyr, oherwydd gwnaethant ddrwg i ti."' Yn awr, maddau ddrygioni gweision Duw dy dad." Wylodd Joseff wrth iddynt siarad ag ef.