Genesis 50:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseff wrth deulu Pharo, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharo, atolwg, gan ddywedyd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd y cyfnod o alar drosodd, dyma Joseff yn mynd at gynghorwyr y Pharo, a dweud: “Mae gen i ffafr i'w gofyn gan y Pharo. Wnewch chi ofyn iddo ar fy rhan i, plîs?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth y dyddiau i alaru amdano i ben, dywedodd Joseff wrth deulu Pharo, "Os cefais unrhyw ffafr yn eich golwg, siaradwch drosof wrth Pharo, a dywedwch,