Genesis 50:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy nhad a'm tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y'm cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fyny, atolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth fy nhad i mi addo rhywbeth iddo ar lw. Dyma ddwedodd e: ‘Dw i ar fin marw, a dw i eisiau i ti fy nghladdu i yn y bedd dw i wedi ei dorri i mi fy hun yng ngwlad Canaan.’ Felly gofyn ydw i am ganiatâd i fynd yno i gladdu dad. Bydda i'n dod yn ôl yma wedyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Gwnaeth fy nhad i mi gymryd llw. Dywedodd, "Yr wyf yn marw, ac yr wyf i'm claddu yn y bedd a dorrais i mi fy hun yng ngwlad Canaan." Yn awr gad i mi fynd i fyny i gladdu fy nhad; yna fe ddof yn l.'"