Genesis 7:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a'r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ie, dilewyd hwynt o'r ddaear: a Noa a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Duw yn cael gwared â nhw i gyd — pobl, anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, ac adar. Cafodd wared â'r cwbl. Dim ond Noa a'r rhai oedd yn yr arch oedd ar ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dilewyd popeth byw oedd ar wyneb y tir, yn ddyn ac anifail, yn ymlusgiaid ac adar yr awyr; fe'u dilewyd o'r ddaear. Noa yn unig a adawyd, a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch.