Genesis 7:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid wedi saith niwrnod eto, mi a lawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a'r a wneuthum i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wythnos i heddiw dw i'n mynd i wneud iddi lawio. Bydd hi'n glawio nos a dydd am bedwar deg diwrnod. Dw i'n mynd i gael gwared â phopeth byw dw i wedi ei greu oddi ar wyneb y ddaear.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd ymhen saith diwrnod paraf iddi lawio ar y ddaear am ddeugain diwrnod a deugain nos, a byddaf yn dileu oddi ar wyneb y ddaear bopeth byw a wneuthum."