Genesis 8:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o'r dyfroedd oddi ar y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y tro yma, pan oedd hi'n dechrau nosi, dyma'r golomen yn dod yn ôl gyda deilen olewydd ffres yn ei phig. Felly roedd Noa'n gwybod bod y dŵr bron wedi mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddychwelodd y golomen ato gyda'r hwyr, yr oedd yn ei phig ddeilen olewydd newydd ei thynnu; a deallodd Noa fod y dyfroedd wedi treio oddi ar y ddaear.