Genesis 8:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i'r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd hi, ac a'i derbyniodd hi ato i'r arch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd y golomen yn methu dod o hyd i le i glwydo, a daeth yn ôl i'r arch. Roedd y dŵr yn dal i orchuddio'r ddaear. Estynnodd Noa ei law ati a dod â hi yn ôl i mewn i'r arch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond ni chafodd y golomen le i roi ei throed i lawr, a dychwelodd ato i'r arch am fod du373?r dros wyneb yr holl ddaear. Estynnodd yntau ei law i'w derbyn, a'i chymryd ato i'r arch.