Genesis 9:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a'i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a'u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Shem a Jaffeth yn cymryd clogyn a'i osod ar eu hysgwyddau. Wedyn dyma nhw'n cerdded at yn ôl i mewn i'r babell a gorchuddio corff noeth eu tad. Roedden nhw yn edrych i ffwrdd wrth wneud hyn, felly wnaethon nhw ddim gweld eu tad yn noeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond cymerodd Sem a Jaffeth fantell a'i gosod ar eu hysgwyddau, a cherdded yn wysg eu cefnau a gorchuddio noethni eu tad, gan droi eu hwynebau i ffwrdd rhag gweld noethni eu tad.