Habakkuk 1:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O ARGLWYDD fy NUW, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O ARGLWYDD, ti a'u gosodaist hwy i farn, ac a'u sicrheaist, O DDUW, i gosbedigaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond ARGLWYDD, ti ydy'r Duw oedd ar waith yn yr hen ddyddiau! Ti ydy'r Duw Sanctaidd, fyddi di byth yn marw! ARGLWYDD, ti'n eu defnyddio nhw i farnu! Ein Craig, rwyt ti wedi eu penodi nhw i gosbi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD, fy Nuw sanctaidd na fyddi farw? O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn; O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd.