Habakkuk 1:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae dy lygaid yn rhy lân i edrych ar ddrygioni! Sut alli di esgusodi annhegwch? Sut wyt ti'n gallu dioddef pobl mor dwyllodrus? Sut alli di eistedd yn dawel tra mae pobl ddrwg yn llyncu pobl sy'n well na nhw?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ti, sydd 'th lygaid yn rhy bur i edrych ar ddrwg, ac na elli oddef camwri, pam y goddefi bobl dwyllodrus, a bod yn ddistaw pan fydd y drygionus yn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun?