Habakkuk 1:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o'm blaen i; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pam wyt ti'n caniatáu y fath anghyfiawnder? Pam wyt ti'n gadael i'r fath ddrygioni fynd yn ei flaen? Does dim i'w weld ond dinistr a thrais! Dim byd ond ffraeo a mwy o wrthdaro!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pam y peri imi edrych ar ddrygioni, a gwneud imi weld trallod? Anrhaith a thrais sydd o'm blaen, cynnen a therfysg yn codi.