Habakkuk 1:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Edrychwch ar y cenhedloedd, a cewch sioc go iawn. Mae rhywbeth ar fin digwydd fyddwch chi ddim yn ei gredu, petai rhywun yn dweud wrthoch chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Edrychwch ymysg y cenhedloedd, a sylwch; rhyfeddwch, a byddwch wedi'ch syfrdanu; oherwydd yn eich dyddiau chwi yr wyf yn gwneud gwaith na choeliech, pe dywedid wrthych.