Habakkuk 1:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'u meirch sydd fuanach na'r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddiau yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a'u marchogion a ddeuant o bell; ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae eu ceffylau yn gyflymach na'r llewpard, ac yn fwy siarp na bleiddiaid yn y nos. Maen nhw'n carlamu am bellter enfawr, ac yn disgyn fel fwlturiaid ar ysglyfaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae eu meirch yn gyflymach na'r llewpard, yn ddycnach na bleiddiaid yr hwyr, ac yn ysu am fynd. Daw ei farchogion o bell, yn ehedeg fel fwltur yn brysio at ysglyfaeth.