Habakkuk 2:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llanwyd di o warth yn lle gogoniant; yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen: ymchwel cwpan deheulaw yr ARGLWYDD atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi di'n feddw o gywilydd, nid mawredd! Dy dro di i oryfed a dangos dy rannau preifat. Mae cwpan digofaint yr ARGLWYDD yn dod i ti! Byddi'n chwydu cywilydd yn lle brolio dy ysblander mawreddog!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddi'n llawn o warth, ac nid o ogoniant. Yf dithau nes y byddi'n simsan. Atat ti y daw cwpan deheulaw'r ARGLWYDD, a bydd dy warth yn fwy na'th ogoniant.