Habakkuk 2:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys trais Libanus a'th orchuddia, ac anrhaith yr anifeiliaid, yr hwn a'u dychrynodd hwynt, o achos gwaed dynion, a thrais y tir, y ddinas ac oll a drigant ynddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi'n talu am ddinistrio coedwigoedd Libanus! Byddi'n dychryn am dy fywyd am i ti ladd yr holl fywyd gwyllt yno; am dy fod ti wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd y trais a wnaed yn Lebanon yn dy oresgyn, a dinistr yr anifeiliaid yn dy arswydo, o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir a'r ddinas a'i holl drigolion.