Habakkuk 2:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gŵr balch yw efe, ac heb aros gartref, yr hwn a helaetha ei feddwl fel uffern, ac y mae fel angau, ac nis digonir; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd, ac a gynnull ato yr holl bobloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd gwin ei lwyddiant yn achos cwymp i'r gelyn balch, anfodlon. Mae ganddo chwant bwyd fel y bedd; fel marwolaeth, dydy e byth yn fodlon. Dyna pam mae'r gelyn yn casglu ac yn concro un wlad ar ôl y llall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae cyfoeth yn dwyllodrus, yn gwneud rhywun yn falch a di-ddal; y mae yntau'n lledu ei safn fel Sheol, ac fel marwolaeth yn anniwall, yn casglu'r holl genhedloedd iddo'i hun ac yn cynnull ato'r holl bobloedd.