Habakkuk 2:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du yn ei erbyn, a dywedyd, Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo! pa hyd? a'r neb a lwytho arno ei hun y clai tew!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y gwledydd hynny yn ei wawdio ryw ddydd! Byddan nhw'n gwneud hwyl am ei ben ar gân! — ‘Gwae'r un sy'n cymryd eiddo oddi ar bobl! (Am faint mae hyn i ddigwydd?) Gwneud ei hun yn gyfoethog trwy elwa ar draul eraill!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oni fyddant i gyd yn adrodd dychan yn ei erbyn, ac yn ei watwar yn sbeitlyd a dweud, "Gwae'r sawl sy'n pentyrru'r hyn nad yw'n eiddo iddo, ac yn cadw iddo'i hun wystl y dyledwr."