Habakkuk 3:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er i'r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a'r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o'r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae'r goeden ffigys heb flodeuo, a'r grawnwin heb dyfu yn y winllan; Pan mae'r coed olewydd wedi methu, a dim cnydau ar y caeau teras; Pan does dim defaid yn y gorlan, nag ychen yn y beudy;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo, ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth; er i'r cynhaeaf olew ballu, ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd; er i'r praidd ddarfod o'r gorlan, ac er nad oes gwartheg yn y beudai;