Haggai 1:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu DUW, ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megis yr anfonasai eu HARGLWYDD DDUW hwynt ef; a'r bobl a ofnasant gerbron yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Serwbabel fab Shealtiel, Jehoshwa fab Iehotsadac yr archoffeiriad, a phawb arall, yn gwneud beth roedd yr ARGLWYDD eu Duw yn ei ddweud, a gwrando ar neges Haggai, y proffwyd roedd e wedi ei anfon. Roedd y bobl yn parchu'r ARGLWYDD eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwrandawodd Sorobabel fab Salathiel a Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu Duw a geiriau Haggai, y proffwyd a anfonodd yr ARGLWYDD eu Duw; ac ofnodd y bobl o flaen yr ARGLWYDD.