Haggai 1:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb; a'r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi wedi hau digon, ond bach iawn ydy'r cynhaeaf; dych chi'n bwyta, ond byth yn cael eich llenwi; dych chi'n yfed, ond heb gael eich bodloni; dych chi'n gwisgo dillad, ond yn methu cadw'n gynnes; mae fel petai'r cyflog mae pobl yn ei ennill yn mynd i bwrs sydd a thwll ynddo!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hauasoch lawer, ond medi ychydig; yr ydych yn bwyta, ond heb gael digon; yr ydych yn yfed, ond heb eich llenwi byth; yr ydych yn ymwisgo, ond heb fod yn gynnes byth; y mae'r sawl sy'n ennill cyflog yn ei gadw mewn cod dyllog."