Haggai 2:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg, ac â'i gwr a gyffwrdd â'r bara, neu â'r cawl, neu â'r gwin, neu â'r olew, neu â dim o'r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A'r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Os ydy rhywun yn cario cig anifail wedi ei aberthu wedi ei lapio yn ei fantell, a'r dilledyn hwnnw wedyn yn cyffwrdd â bara neu stiw, gwin, olew, neu rhyw fwyd arall, fydd e'n gwneud y bwydydd hynny'n gysegredig?’” Ateb yr offeiriaid oedd, “Na fydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Os dwg un ym mhlyg ei wisg gig wedi ei gysegru, a gadael i'r wisg gyffwrdd bara, neu gawl, neu win, neu olew, neu unrhyw fwyd, a fyddant yn gysegredig?'" Atebodd yr offeiriaid, "Na fyddant."