Haggai 2:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr ARGLWYDD; ac felly y mae holl waith eu dwylo, a'r hyn a aberthant yno, yn aflan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Haggai yn dweud: “‘Mae'r un peth yn wir am y bobl yma a'r genedl yma,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘a'u cynnyrch nhw i gyd. Mae popeth maen nhw'n ei offrymu yn aflan!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Haggai, "'Felly y mae'r bobl hyn, a'r genedl hon ger fy mron,' medd yr ARGLWYDD, 'a hefyd holl waith eu dwylo; y mae pob offrwm a ddygant yma yn halogedig.'"