Haggai 2:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr ARGLWYDD; ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad; ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr ARGLWYDD, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dal ati, Serwbabel. Dal ati, Jehoshwa fab Iehotsadac. A daliwch chithau ati, bawb’—meddai'r ARGLWYDD. ‘Daliwch ati i weithio, oherwydd dw i gyda chi’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, ymgryfha, Sorobabel,'" medd yr ARGLWYDD, "'ac ymgryfha, Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir,'" medd yr ARGLWYDD. "'Gweithiwch, oherwydd yr wyf fi gyda chwi,'" medd ARGLWYDD y Lluoedd,