Hebrews 1:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac megis gwisc y plygi di hwynt, ac a ymnewidiant: eythr tydi yr vn ydwyd, ath vlenyddoedd di ni ddeffygiant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac fel mantell y plygi hwynt; Fel cochl, a newidir hwynt; Ond Tydi yr un ydwyt, A’th flynyddoedd ni phallant.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac fel mantell y rholi di hwynt, fel dilledyn y trawsnewidir hwy; ond ti yr un ydwyt a’th flynyddoedd ni phallant.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi'n eu rholio i fyny fel hen glogyn; byddi'n eu newid nhw fel rhywun yn newid dillad. Ond rwyt ti yn aros am byth — dwyt ti byth yn mynd yn hen.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
plygi hwy fel plygu mantell, a newidir hwy fel newid dilledyn; ond tydi, yr un ydwyt, ac ar dy flynyddoedd ni bydd diwedd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac megys mantell y plygi di hwynt, Fel gwisg, a hwy a newidir; Ond tydi, yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant