Hebrews 1:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wrth pwy or angylion erioed y dywod ef, Eisteð ar y llaw ddeau ym, hyd oni ddodwy dy elynion yn stol ith traed?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd Efe erioed, “Eistedd ar fy neheu-law Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc dy draed?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wrth bwy, tybed, o’r angylion y dywedodd erioed: “Eistedd ar fy neheulaw i hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed”?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond wrth ba un o'r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed?: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth bwy o'r angylion y dywedodd ef erioed: "Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed"?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond am ba un o'r angelion y dywedodd efe erioed, Eistedd ar fy neheulaw, Hyd oni osodaf dy elynion yn droed‐faingc i'th draed?