Hebrews 1:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Onid ysprydion gwasanaythgar y dynt wy oll, a ddanfonir y wasanaenthu, ir mwyn y rray a fyddont ytyveddion yr iechaid?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Onid yw’r oll o honynt yn ysprydion gwasanaethgar, yn cael eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai sydd ar fedr etifeddu iachawdwriaeth?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Onid ysbrydion gweini ydynt oll yn cael eu hanfon ar wasanaeth er mwyn y rhai a fydd yn etifeddu iachawdwriaeth?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim ond gweision ydy'r angylion. Ysbrydion wedi eu hanfon i wasanaethu'r rhai fydd yn cael eu hachub!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt oll, yn cael eu hanfon i weini, er mwyn y rhai sydd i etifeddu iachawdwriaeth?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, yn cael eu danfon i wasanaethu, er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?