Hebrews 1:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rrwn am yfod yn llewyrch y gogoniant, a gvvir- lun y berson ef, ac yn cynnal pop peth trwy eu air galluawg ef, wedy golchi eyn pechodeu ni trwyddo ef eu hun, a eystedd avdd ar ddeau‐law y fowredd ef yn y goruche lion,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Hwn, ac Efe yn ddisgleirdeb Ei ogoniant Ef, ac yn wir lun Ei hupostasis, ac yn cynnal pob peth â gair Ei allu, wedi gwneuthur glanhad pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn yr uchelion,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwn, ag yntau’n llewyrch ei ogoniant ef, ac yn argraff ei sylwedd ef, ac yn cynnal popeth drwy air ei allu ef, wedi gwneuthur glanhad pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y mawrhydi yn yr uchelion,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e'n dangos i ni'n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy'n dal popeth yn y bydysawd gyda'i gilydd! Ar ôl iddo ei gwneud hi'n bosib i bobl gael eu glanhau o'u pechodau, cafodd eistedd yn y nefoedd, yn y sedd anrhydedd ar ochr dde y Duw Mawr ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw, ac y mae stamp ei sylwedd ef arno; ac y mae'n cynnal pob peth 'i air nerthol. Ar l iddo gyflawni puredigaeth pechodau, eisteddodd ar ddeheulaw'r Mawrhydi yn yr uchelder,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn, ac efe yn lewyrchiad ei ogoniant ef, ac yn argraph ei sylwedd ef, ac yn cynnal ymlaen yr oll â gair ei allu, wedi iddo effeithio puredigaeth pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch‐leoedd;