Hebrews 1:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a wnaethbwyd o lawer yn well nor Angylion o gymyn ac y raeth ef ac enw sy yn dwyn rragor arnyntwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wedi myned yn gymmaint gwell na’r angylion ag yr etifeddodd enw mwy rhagorol na hwy,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
wedi dyfod gymaint yn rhagorach na’r angylion ag ydyw yr enw a etifeddodd yn amgen na’r eiddynt hwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi ei wneuthur o hynny yn well na'r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd wedi ei wneud yn bwysicach na'r angylion. Roedd y teitl roddodd Duw iddo yn dangos ei fod yn bwysicach na nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
wedi dyfod gymaint yn uwch na'r angylion ag y mae'r enw a etifeddodd yn rhagorach na'r eiddynt hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
wedi myned yn gymaint gwell na'r angelion, o gymaint ag yr etifeddodd Enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy.