Hebrews 1:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am yr angylion yn wir y dowaid, Rrwn a wna eu cenadau o yspridion, ay wasanaythwyr o fflam dan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac o ran yr angylion y dywaid, “Yr Hwn sy’n gwneuthur yn genhadon Iddo y gwyntoedd; Ac yn weinidogion Iddo, y tân fflamllyd;”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac am yr angylion dywed: “Yr hwn sy’n gwneuthur ei angylion yn wyntoedd A’i weinidogion yn fflam dân,”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac am yr angylion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion, a'i weinidogion yn fflam dân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae Duw'n sôn am angylion mae'n eu disgrifio fel: “negeswyr sydd fel gwyntoedd, a gweision sydd fel fflamau o dân.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am yr angylion y mae'n dweud: "Yr hwn sy'n gwneud ei angylion yn wyntoedd, a'i weinidogion yn fflam dn";
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac am yr angelion dywed, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angelion yn wyntoedd, a'i weinidogion yn fflam dân;