Hebrews 1:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wrth y mab hagen y dyvvait, Dy gadair di, Ddyw, yn oes oesoedd: teyrnwialen vnion teyrnwialen dy dyrnas di.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond o ran y Mab, “Dy orseddfaingc, O Dduw, yn oes oesoedd y mae, A theyrn-wialen uniondeb yw teyrn-wialen Dy deyrnas.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond am y mab, “Dy orsedd di, Dduw, sydd yn oes oesoedd, a gwialen uniondeb, gwialen ei deyrnas ef yw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond am y Mab mae Duw'n dweud hyn: “Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth, a byddi'n teyrnasu mewn ffordd gyfiawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond am y Mab: "Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol, a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond am y Mab: Dy orseddfaingc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd. A Theyrn‐wialen uniondeb yw teyrn‐wialen dy Deyrnas di;