Hebrews 10:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny pob effeiriad sy yn sefyll gar bron beunydd yn cyflownir‐crevydd, ac yn offrymnu yn fynych yr vn aberthau, rrain ni ddichin fyth dynnu ymaith pechodau:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phob offeiriad yn wir sy’n sefyll o ddydd i ddydd yn gwasanaethu, ac yr un aberthau yn fynych a offrymma, y rhai ni allant byth dynnu ymaith bechodau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn ei wasanaeth ac yn offrymu’r un aberthau lawer gwaith, y rhai ni allant byth dynnu ymaith bechodau, —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dan yr hen drefn mae'r offeiriad yn sefyll o flaen yr allor yn gwneud yr un gwaith ddydd ar ôl dydd. Mae e'n offrymu yr un aberthau drosodd a throsodd, ond allan nhw byth gael gwared â phechod!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gweini, ac yn offrymu'r un aberthau dro ar l tro, aberthau na allant byth ddileu pechodau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae pob offeiriad yn wir yn sefyll o ddydd i ddydd yn gwasanaethu ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant byth dynnu ymaith bechodau;