Hebrews 10:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pe na bai felly oni pheidiesent wy ac offrymu, am na biase yn awr ddim cydwybod pechod o rā y rrai a offrymasent, ac a buresid hwynt vnwaith?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys oni pheidiasent â’u hoffrymmu, gan na fyddai mwyach ddim cydwybod o bechodau gan y rhai yn addoli, wedi iddynt un waith am byth eu glanhau?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys oni pheidiasid â’u hoffrymu, gan na buasai mwyach ymwybod â phechodau gan addolwyr a oedd wedi eu glanhau unwaith?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid yna hwy a beidiasent â'u hoffrymu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau unwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oni fyddai'r bobl wedi stopio aberthu petai'r Gyfraith yn gallu eu glanhau nhw? Byddai'r addolwyr wedi eu glanhau un waith ac am byth, a ddim yn teimlo'n euog am eu pechodau ddim mwy!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Petasai hynny'n bosibl, oni fuasent wedi peidio chael eu hoffrymu, gan na fuasai mwyach ymwybyddiaeth o bechodau gan addolwyr a oedd wedi eu puro un waith am byth?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pe amgen, oni pheidiasent â'u hoffrymu, gan na fyddai mwyach gydwybod o bechodau gan yr addolwyr, gan eu bod wedi eu glanhâu unwaith am byth?