Hebrews 10:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rryd y ffordd a gysegrodd ef yni yn newydd ac yn fyw, trwyr llenn sef yw trwy y gnawd ef:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ffordd newydd a byw, trwy’r llen,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ar hyd ffordd newydd a byw a agorodd ef i ni drwy’r llen, hynny yw, ei gnawd ef,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy'r llen, sef ei gnawd ef;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ffordd newydd sydd wedi ei hagor i ni drwy'r llen (am fod Iesu wedi aberthu ei gorff ei hun) — y ffordd i fywyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ar hyd ffordd newydd a byw y mae ef wedi ei hagor inni drwy'r llen, hynny yw, trwy ei gnawd ef;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hon a agorodd efe i ni yn ffordd newydd a byw, trwy y llen, hynny yw, ei gnawd ef,