Hebrews 10:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn a dorho cyfraith Voyses yn ddidrigaredd tann ddau, neu dri o dystion y gorfydd yddo farw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y neb a ddiystyrodd Gyfraith Mosheh, heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion y bydd farw:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pwy bynnag a fu’n ddibris o gyfraith Moses a leddir heb drugaredd ar air dau neu dri o dystion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddyliwch! Os oedd rhywun yn gwrthod ufuddhau i Gyfraith Moses, doedd ond angen tystiolaeth dau neu dri tyst a byddai'n cael ei roi i farwolaeth. Doedd dim trugaredd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd unrhyw un wedi diystyru Cyfraith Moses, caiff ei ladd yn ddidrugaredd ar air dau neu dri o dystion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Un a ddirmygo Gyfraith Moses sydd yn marw heb dosturi ar air dau neu dri o dystion;