Hebrews 10:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pa faint dybygwchi mwy dialedd y bernir hwnw a sather tan draed fab Dyw, ac a farno yn anlan waed y Testament, trwyr hwn y teilyngwyd ef, ac a dremygo Yspryt y gras?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
pa faint gwaeth cospedigaeth (dybygwch chwi,) y bernir haeddu o’r hwn y bu i Fab Duw Ei fathru ganddo; ac i waed y cyfammod ei farnu yn ansanctaidd ganddo, â’r hwn y’i sancteiddiwyd, ac i Yspryd y gras Ei sarhau ganddo?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa faint gwaeth cosb, debygwch chwi, a ddyfernir i’r hwn a fathrodd fab Duw, ac a gymerodd yn beth cyffredin waed y cyfamod â’r hwn y santeiddiwyd ef, ac a fwriodd sarhad ar ysbryd y gras?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy'r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y gosb yn llawer iawn mwy llym i'r bobl hynny sydd wedi sathru Mab Duw dan draed fel petai'n sbwriel ac wedi trin ei waed (gwaed yr ymrwymiad newydd) fel petai'n beth aflan! Maen nhw wedi sarhau Ysbryd hael Duw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ystyriwch gymaint llymach yw'r gosb a fernir yn haeddiant i'r hwn sydd wedi mathru Mab Duw, ac wedi cyfrif yn halogedig waed y cyfamod y cafodd ei sancteiddio drwyddo, ac wedi difenwi Ysbryd grasol Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
pa faint gwaeth cospedigaeth, dybygwch, y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd dan draed Fab Duw, ac a gyfrifodd waed y Cyfamod, yn yr hwn y sancteiddiwyd ef, yn beth aflan, ac a sarhâodd Yspryd y gras?