Hebrews 10:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Tra ðygid chwi allan weithiau trwy wradwyddeu a gorthrymdereu, y fod yn ddrych ioleth, weithiau yn wir tra wnelid chwi yn gymedeithiō ir rrai a fyddynt yn ymdrino sut hwnw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
o ran, â gwaradwyddiadau a gorthrymderau yn cael eich gwneuthur yn wawd; ac o ran, wedi myned yn gyfrannogion â’r rhai yn cael eu trin felly,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yn cael gwneuthur arddangosfa ohonoch mewn sarhadau ac ingoedd, neu ynteu wedi dyfod i gymdeithas y rhai oedd â’u helynt felly.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â'r rhai a drinid felly.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Weithiau'n cael eich sarhau a'ch cam-drin yn gyhoeddus; dro arall yn sefyll gyda'r rhai oedd yn cael eu trin felly.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
weithiau, yn eich gwaradwydd a'ch cystuddiau, yn cael eich gwneud yn sioe i'r cyhoedd, ac weithiau yn gymdeithion i'r rhai oedd yn cael eu trin felly.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
weithiau trwy gael eich gwneuthur yn ddrych cyhoeddus mewn gwaradwyddiadau a gorthrymderau, weithiau trwy ddyfod yn gyfranogion â'r rhai oeddent yn yr un cyflwr.